Y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddigidol yng Nghymru (15.2.24) – Cofnodion:
Yn bresennol:
Rhun ap Iorwerth AS |
Rhys Hughes |
Pryderi ap Rhisiart |
Ffion Davies |
Tom Burke |
Gemma Halliday |
Cath Morris-Roberts |
Joshua Roberts |
Sam Rhys |
Phil Stead |
Klaire Tanner |
Rhoslyn Prys |
Huw Ynyr |
Sion Huw |
Brandon Wilson |
Stephanie Yau-Jones |
Candice Chartrand |
Kirrie Roberts |
Sian Adler |
Stephen Edwards |
Danielle Haggar |
Jj Haggar |
Anwen Davies |
Gwyndaf Rowlands |
Carol Jones |
Owain Llyr |
Gerwyn Evans |
Aled Parry |
Catrin Owen |
John Jackson |
Daniel Evans |
Meg Gregory |
Derick Murdoch |
Lleoliad:
· M-SParc, Gaerwen, Ynys Môn, LL60 6AR
· Ar-lein (Microsoft Teams)
Ø Rhun ap Iorwerth AS yn agor y cyfarfod
· Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy egluro diben y Grŵp Trawsbleidiol a'r hyn y mae wedi'i gyflawni hyd yma.
· Diolchodd i M-SParc am ei waith parhaus yn darparu gwasanaeth ysgrifenyddiaeth ar gyfer y grŵp.
· Nododd fod ymddiheuriadau weddi dod i law gan Delyth Jewell AS a Peredur Owen Griffiths AS, gan nad oedd modd iddynt fod yn bresennol.
· Symudodd ymlaen at brif bwnc y cyfarfod penodol hwn, sef creadigrwydd digidol, gan egluro fformat sylfaenol y cyfarfod.
· Daeth y Cadeirydd â’i sylwadau agoriadol i ben drwy groesawu'r siaradwr cyntaf i'r llwyfan.
Ø Gerwyn Evans (Cymru Greadigol)
· Rhagolwg o waith a grëwyd yn 2022; gwaith yn cael ei wneud ar fideo newydd, gan ddefnyddio gwaith a wnaed yn 2023.
· Mae CG yn canolbwyntio ar nifer o sectorau allweddol: cerddoriaeth, gemau, cyhoeddi, teledu/ffilm, animeiddio, technoleg greadigol (CreaTech), ymchwil a datblygu.
· Mae hon yn rhan sylweddol o'r economi, a'r rhan sy'n tyfu gyflymaf. Mae dymuniad i flaenoriaethu buddsoddiad.
· Cerddoriaeth: Mae CG yn gweithio ar draws lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad, gan ddarparu cyllid i gefnogi'r lleoliadau hyn. Mae cymorth ariannol gwerth £500,000 wedi’i ddarparu at ddibenion ddangos talent yng Nghymru, a £475,000 wedi’i ddyrannu i bartneriaid yn y diwydiant a digwyddiadau. Mae Cymru ar fin mwynhau llwyddiant ar raddfa fyd-eang. Mae 30-40 o ganeuon newydd yn cael eu llwytho'n rheolaidd i gyfrif Spotify CG, a hynny er mwyn arddangos talent gyfredol a newydd.
· Gemau / Animeiddio – Swm o £652,000 wedi'i fuddsoddi drwy'r gronfa datblygu digidol, a swm o £360,000 wedi'i fuddsoddi yn y Gronfa Cynnwys i'r Ifanc. Mae CG yn cefnogi’r broses o ddatblygu talent gemau ar lawr gwlad drwy raglen bartneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam. Yn ddiweddar, aeth CG â 18 o fusnesau gemau i San Francisco, ac mae'n bwriadu gwneud yr un peth eleni gyda 13 o fusnesau.
· Cyhoeddi – Mae CG yn ariannu'r cyngor llyfrau yn llawn ac yn darparu cyllid ychwanegol. Mae swm o £610,000 wedi'i fuddsoddi yn y gronfa cynulleidfaoedd newydd. Cafwyd taith fasnach i Frankfurt y llynedd, gyda 13 o gyhoeddwyr.
· Teledu / Ffilm – Cyllid cynhyrchu gwerth £18.1 miliwn; 37 o brosiectau yn cynhyrchu £208.7 miliwn. Nod CG yw gwneud mwy yn y gogledd. Llawer o fuddsoddiad wedi’i wneud mewn cwmnïau cynhyrchu annibynnol. Buddsoddi mewn cyfleoedd hyfforddi.
· Yr agenda gwaith teg – polisi a’r gymuned economaidd; adroddiad ar sut i wella amodau gwaith teg. Mae materion sylfaenol sy’n destun gwaith parhaus.
· Cronfa Ffilm Cymru
· Mae llawer o waith wedi’i wneud yn y Gymraeg drwy weithio gyda S4C.
· Cymorth – mae agenda sgiliau eang parthed darparu cymorth sgiliau ar gyfer y sgrin, cynnwys digidol, cerddoriaeth, gwaith traws-sector a chyllid partneriaeth.
· Mae ymchwil a datblyguyn hollbwysig. Mae Media Cymru wedi'i ariannu gan CG. Bydd rownd arall o gyllid yn cael ei gyhoeddi yn fuan. Os daw gogledd Cymru at ei gilydd fel grŵp, mae CG o’r farn y gall sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi hyn. Mae Media Cymru yn rhaglen gwerth £50 miliwn, ac mae angen i’r rhaglen hon fod yn gyfle i ogledd Cymru.
· Polisi: Mae gan CG Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Mae’n awyddus i helpu, gan barhau i gefnogi Gogledd Creadigol a datblygu'r rhwydwaith yng ngogledd Cymru.
Ø Owain Llyr (Gweledigaeth)
· Agorodd y siaradwr ei gyfraniad drwy drafod sut y cyrhaeddodd y fan hon heddiw.
· Eglurodd fod ei swydd flaenorol yn y byd radio yn Wrecsam, ond nododd fod y gofynion teithio yn golygu nad oedd y swydd honno’n gynaliadwy.
· Dywedodd ei fod wedi mynd ar ei liwt ei hun er mwyn ceisio taro cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Nododd hefyd, fodd bynnag, ei fod yn ofni na fyddai unrhyw opsiynau gwaith yn agos i’w gartref yn y diwydiant yr oedd yn dymuno gweithio ynddo.
· Trafododd y darn cyntaf a gafodd ei gynhyrchu ganddo fel gweithiwr llawrydd, sef sgets gyda’i fab am faterion traffig yn ardal Bontnewydd. Eglurodd fod y darn hwn o waith wedi ysgogi ei angerdd parthed sicrhau’r rhyddid i wneud y math o waith yr oedd am ei wneud.
· Eglurodd fod gweithio ar ei liwt ei hun wedi rhoi cyfle iddo weithio gyda brandiau mwy, tra hefyd yn cynnal lefel o ymreolaeth.
· Mae hefyd wedi rhoi’r cyfle iddo arbrofi mewn llawer o wahanol sectorau yn y diwydiannau creadigol.
· Rhoddodd enghreifftiau penodol, sef gwneud gwaith trosleisio Cymraeg i Arriva Cymru, a chyflwyno ‘Bingo Bocnyrs’ yng ngogledd Cymru.
· Yna, trodd y siaradwr at bwysigrwydd brandio a marchnata. Yn gyntaf, eglurodd ei fod yn gwisgo dillad sy’n debyg i'w logo wrth ymweld â digwyddiadau cyhoeddus. Yn ogystal, mae wedi prynu fan goch i gyd-fynd â’i frand.
· Yna, eglurodd ei fod yn cefnogi timau lleol, fel Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon, nid yn unig i sicrhau mwy o gwsmeriaid, ond hefyd i gefnogi’r economi leol.
· Diolchodd Rhun i Owain am ei gyfraniad, a chroesawodd Catrin i flaen yr ystafell.
Ø Catrin Owen (Tropic)
· Agorodd Catrin ei chyfraniad drwy ddatgan ei bod yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol, ond ei bod symud i ffwrdd ar ôl mynd i’r brifysgol er mwyn chwilio am fwy o gyfleoedd.
· Eglurodd ei bod wedi dechrau ei gyrfa yn y diwydiant, gan weithio â brandiau mawr a thîm agos yn Brighton.
· Dywedodd ei bod wedi mwynhau prysurdeb y swydd a'r ddinas, ond nododd fod y pandemig wedi achosi iddi deimlo hiraeth am gartref.
· Mynegodd bryderon, fodd bynnag, na fyddai unrhyw waith ar gael iddi yn y diwydiant yng ngogledd Cymru.
· Ar ôl symud yn ôl i ogledd Cymru, gwnaeth hi weithio o bell i asiantaeth.
· Yn fuan, sylweddolodd nad dyna oedd hi am ei wneud bellach, a gwnaeth y naid i fyd gwaith llawrydd.
· Roedd yn teimlo bod bwlch yn y farchnad, a rôl iddi ei chwarae wrth bontio'r bwlch rhwng busnes a chreadigrwydd. Arweiniodd hyn at y cam o greu stiwdio greadigol Tropic.
· Cydweithiodd yn agos ag M-SParc ar lawer o brosiectau, megis y wefan.
· Soniodd hefyd ei bod wedi gweithio gyda chwmnïau fel Cwmni Da, Parc Glynllifon, a Gogledd Cymru Actif wrth ddatblygu eu llwyfannau digidol.
· Erbyn hyn, mae Tropic yn dîm o bump, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn fenywod.
· Eglurodd y siaradwr ei bod yn bwysig iddi rymuso menywod i weithio yn y diwydiant.
· Daeth â’i chyfraniad i ben drwy ddatgan bod llawer o waith rhagorol yn digwydd yn y gogledd, a bod angen i Lywodraeth Cymru gefnogi hynny er mwyn sicrhau ei fod yn cryfhau ymhellach.
Ø Cyfle i ofyn cwestiynau
· Agorodd y Cadeirydd y drafodaeth i’r llawr, gan ofyn y cwestiwn cyntaf i Catrin, ynghylch y gwahaniaeth rhwng gweithio yn y ddinas a lleoliad mwy gwledig.
· Eglurodd Catrin fod gweithio’n broffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn her yn gychwynnol, yn sgil y ffaith iddi gael y rhan fwyaf o’i haddysg yn y sector hwn yn benodol drwy gyfrwng y Saesneg.
· Cafwyd cwestiwn ynglŷn â chynaliadwyedd y sector clybiau nos.
· Roedd Gerwyn yn cytuno nad yw pobl ar hyn o bryd yn mynd i mewn i'r sector clwb nos / lleoliadau cerddoriaeth i wneud arian mawr, gan fod hynny’n orchest anodd iawn. Nododd, fodd bynnag, fod gobaith o droi’r gornel yn fuan.
· Cafwyd cwestiwn dilynol a oedd yn ymwneud yn benodol â lleoliadau cerddoriaeth. Gofynnwyd a fyddai modd i fodel hybrid weithio yn y sector hwnnw.
· Dywedodd Gerwyn fod y model hwnnw eisoes wedi cael ei ddefnyddio, ond ei bod yn amlwg bod yn well gan bobl brofi cerddoriaeth yn y cnawd lle bo modd.
· Serch hynny, eglurodd Gerwyn fod angen gwneud mwy o waith ar fodelau amgen posibl a fyddai'n galluogi'r diwydiant i ffynnu.
· Dywedodd Owain mai dyna oedd y rheswm pam mae noddi busnesau lleol mor bwysig iddo.
· Gwnaeth aelod o'r gynulleidfa ddatganiad ynglŷn â phwysigrwydd defnyddio busnesau bach ar gyfer prosiectau. Datgelodd ei fod wedi defnyddio gwasanaethau Catrin yn y gorffennol, a’i fod wrth ei fodd gyda’r gwasanaeth. Nododd, fodd bynnag, ei bod yn bwysig bod eraill yn gwneud yr un peth, hyd yn oed os yw’r gost ychydig yn uwch.
· Dychwelodd Owain at y pwynt a wnaed yn ei gyflwyniad ynghylch noddi timau chwaraeon lleol. Rodd yn gweld gwerth sicrhau cydnabyddiaeth o ran y brand, ond hefyd sicrhau bod sectorau eraill yn cael eu cefnogi o fewn y maes y mae’n gweithio ynddo.
· Eglurodd Catrin fod gweithwyr llawrydd yn fwy tebygol o roi mwy o ymdrech i mewn i’r gwaith y maent yn ei wneud.
· Roedd y cwestiwn olaf yn ymwneud â’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Yn benodol, roedd yn ymdrin â’r iaith Gymraeg, y diwydiant a sut rydym yn ei gefnogi.
· Dywedodd Gerwyn ei fod yn fater o wrando ar y diwydiant a bodloni'r galw.
· Eglurodd Owain ei fod yn mynd o gwmpas ysgolion yn ngogledd Cymru, a bod diffyg gwybodaeth ynghylch cerddoriaeth Cymraeg ymhlith plant. Cyfeiriodd at rwydweithiau radio lleol fel MonFM, gan nodi eu bod yn gwneud gwaith gwych ond nad ydynt yn cael digon o gefnogaeth ariannol.
· At y dibenion hyn, dywedodd fod angen newid y dull a ddefnyddir a’r weledigaeth yn fwy cyffredinol.
· Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cwestiynau ac i'r siaradwyr am eu hatebion, cyn gwahodd y gwestai nesaf i siarad.
Ø Aled Parry (Tinint)
· Rhannodd y siaradwr ychydig o wybodaeth gefndir, gan nodi y cafodd ei eni yng ngogledd Cymru a’i fod wedi gweithio yn y diwydiant dylunio.
· Siaradodd am y syniadau a oedd yn sail i Tinint, gan sôn am y gwaith caled sydd wedi'i wneud a’r ffaith mai Tinopolis yw'r rhiant-gwmni.
· Eglurodd fod y byd digidol bob amser yn esblygu, gan sôn am yr heriau sy’n wynebu pob corfforaeth, busnes, darlledwr ac ati o ran parhau i gyrraedd y gynulleidfa a chael eu sylw.
· Yna, rhoddodd y siaradwr enghraifft o’i waith, gan sôn am y fenter y mae wedi bod yn cydweithio'n agos arni gydag S4C, sef y Cwis Bob Dydd.
· Eglurodd y siaradwr fod yr ap, sydd wedi bod yn hynod boblogaidd, yn ffrwyth 18 mis o waith.
· Canfu ymchwil marchnata mai'r hyn y mae pobl yn ei fwynhau am yr ap yw’r elfen wybodaeth gyffredinol. Mae hyn yn golygu bod yr ap yn llawer mwy cynhwysol, gan roi cyfle i bawb gymryd rhan.
· Yna, trodd y siaradwr at y cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Yn gyntaf, soniodd am y cynllun i ddatblygu economi gylchol o fewn yr ap sy'n rhoi cyfleoedd hyrwyddo i fusnesau llai.
· Yn ail, soniodd am sut y gellid ehangu'r fformat ei hun a'i ail-frandio ar gyfer meysydd eraill, megis rhaglen gwis ar y teledu.
· O flaen y gynulleidfa, diolchodd y Cadeirydd i'r siaradwr am ei gyfraniad a gwahoddodd y siaradwr olaf i gyfrannu.
Ø John Jackson (Esports Wales)
· Yn gyntaf, rhoddodd y siaradwr drosolwg o waith Esports Wales, gan egluro beth yn union yw e-chwaraeon.
· Dywedodd fod e-chwaraeon yn cael eu gweld fel gweithgarwch lefel uchel dros ben, ac i ryw raddau, mae hynny'n wir.
· Gwnaeth y siaradwr gymhariaeth rhwng y rôl y mae Esports Wales ei chwarae â rôl Chwaraeon Cymru yn y sector chwaraeon.
· Fodd bynnag, roedd y siaradwr yn awyddus i bwysleisio pwysigrwydd meithrin y gweithgarwch hwn ar lawr gwlad hefyd, a hynny er mwyn annog mwy o bobl i gymryd rhan ac i wella safon gyffredinol e-chwaraeon yng Nghymru yn y tymor hir.
· Soniodd y siaradwr am daflwybr y sector. Nododd fod nifer y ffrydiau a'r cronfeydd o wobrau sydd ar gael ar gyfer digwyddiadau gemau byw yn parhau i gynyddu, gan ragori ar chwaraeon prif ffrwd adnabyddus fel golff.
· Soniodd am y ffaith bod Cymru wedi cael ei derbyn fel aelod llawn o’r ffederasiwn e-chwaraeon ym Mharis y llynedd.
· Soniodd hefyd am y ffaith bod e-chwaraeon yn esblygu i fod yn gangen o weithgarwch corfforaethau mwy.
· Soniodd am y ffaith bod busnesau, fel timau pêl-droed neu rygbi, yn datblygu eu timau eu hunain, gan dynnu sylw at dîm rygbi’r Dreigiau fel enghraifft berffaith o hyn.
· Yna, soniodd am y ffaith bod e-chwaraeon yn enwedig o boblogaidd ymhlith pobl ifanc, ond bod chwaraewyr hŷn yn cymryd rhan hefyd, gan gynnwys y chwaraewr proffesiynol hynaf, sydd yn ei 60au.
· Fodd bynnag, y ddemograffeg a dargedir yw pobl ifanc yn eu harddegau. Dyna pam y mae camau i ddatblygu timau mewn colegau a phrifysgolion, ynghyd â chyflwyno modiwlau sy’n ymwneud ag e-chwaraeon, mor galonogol.
· Daeth â’i sylwadau i ben drwy nodi bod angen edrych ar y mater hwn yn ehangach, ac nid yn unig fel gyrfa mewn chwarae gemau yn broffesiynol. Yn hytrach, mae angen ystyried yr holl ystod o broffesiynau perthynol sydd â rôl i’w chwarae yn y sector hwn, megis darlledu, datblygu gemau ac ati.
· Roedd ei sylwadau olaf yn ymwneud â'r angen i sicrhau rhwydweithio parhaus, darparu cefnogaeth ar gyfer sector, a datblygu cyfeirlyfr talent.
Ø Cyfle i ofyn cwestiynau
· Cafwyd cwestiwn ynghylch y ffordd fwyaf effeithiol o gynnwys pobl ifanc yn eu harddegau.
· Atebodd John drwy ddweud bod llawer o'r gwaith caled hwnnw'n cael ei wneud yn naturiol yn rhinwedd y ffaith bod chwarae gemau mor boblogaidd ledled y byd. Fodd bynnag, dywedodd fod angen chwarae rôl fwy ar yr ochr greadigol, yn ogystal â newid y ffordd yr ydym yn gweld e-chwaraeon yn fwy cyffredinol.
Ø Rhun ap Iorwerth AS yn dod â’r cyfarfod i ben
· Agorodd y Cadeirydd y llawr ar gyfer cyfraniadau olaf a phrif negeseuon y digwyddiad.
· Tynnodd yr ysgrifenyddiaeth sylw at gyfraniad Catrin a'r angen i sicrhau mwy o amrywiaeth yn y sector.
· Tynnodd un o’r gwesteion sylw at yr angen clir i Lywodraeth Cymru ddarparu mwy o gymorth arbenigol ac ariannol i Gymru Greadigol.
· Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben drwy ddiolch i bawb am eu gwaith caled wrth gynnal y digwyddiad. Diolchodd hefyd i M-SParc, yr ysgrifenyddiaeth, am barhau i sbarduno gweithgarwch yn y sector digidol yng ngogledd Cymru.